Ein gwasanaethau...

Ffilmio Digwyddiadau / Dogfennu - Mae ein criw ffilmio profiadol ar gael i gofnodi eich digwyddiadau chi. Rydym yn defnyddio offer Manylder Uchel (HD1080i) Sony. Mae'r camera yn cynnwys Tripod, Uned 'Oleuo (Annibynnol, neu ar y camera) yn ogystal a Meicroffôn bwm (Hyd Cebl 10m) / Meicroffôn Radio - i recordio cyfweliadau a.y.y.b. Mae gennym hefyd beiriannau recordio sain ar wahân petai gofyn amdanynt.

Uned Olygu Fideo - Mae ein system olygu fideo o'r radd flaenaf, ac yn defnyddio technoleg Quad Core.Gan ddefnyddio pecynnau golygu Sony Vegas / Ulead ac Adobe, gallwn gynhyrchu gwaith o safon uchel mewn amser byr.

Uned Olygu Sain / Dybio - Defnyddiwn system olygu sain Adobe Audition. Mae'n system sy'n ein caniatau i olygu / recordio sain ar y pryd mewn 48,000khz - Mae gennym 2 system o'r math hwn.

Trosleisio - Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth trosleisio ar gyfer ystod eang o brosiectau. Mae ein bâs-data yn cynnwys artistiaid sy'n arbennigo mewn meusydd gwahannol. Boed beth yw eich gofynion felly, bydd ein darpariaeht o leisiau cyfarwydd o fyd y Teledu a Radio yn addas i'ch holl ddibenion.

Radio - Ers 5 mlynedd bellach, Cynyrchiadau Gweledigaeth sydd yn gyfrifol am ddarparu y rhaglen Radio brynhawn ar Heart 103 yn Ynys Môn a Gwynedd (Champion 103 gynt). Yn ystod yn cyfnod hwn bu i Owain Llyr ennill ei le yn rhestr y 10 ucha o gyflwynwyr radio Prydain Fawr - gyda'r cyhoedd yn gwrando yn hirach ar ein sioe na Chris Evans ar BBC Radio 2 (Rajar 2007). Bum hefyd yn gyfrifol am sgriptio a newyddiadura ar gyfer Champion 103 a Coast 96.3 - "Welsh Station of the Year / European Radio Station of the Year"

Bum hefyd yn ymchwilio i gynnwys rhaglen Owain Gwilym a Dylan Wyn ar BBC Radio Cymru, yn ogystal a threfnu cynulleidfaoedd i raglenni megis Pawb a'i Farn a Stondin Sulwyn. Yn ogystal a hyn, 'roeddem hefyd yn ddarparwyr rhaglenni i rhwydwaith GOLD yn Ngogledd Cymru.

Sgriptio / Ymchwil - Gallwn ddarparu y cynnwys clywedol / ysgrifenedig i gyd-fynd a'ch prosiect. O'r cnewyllyn cyntaf hyd at y diwedd, byddwn yn gweithio yn agos gyda'r cleient i sicrhau fod gofynion y prosiect yn cael ei wireddu.

Jib Camera - Yn syml, craen 3m mewn hyd ydi Jib (efallai i chi weld y math yma o graen ar set teledu neu mewn cyngerdd roc). Mae'r camera yn mynd ar ei flaen, ac mae hefyd uned reoli trydannol, sy'n galluogi y camera i symud i bob cyfeiriad yr un pryd. Gallwn osod y Jib o fewn ychydig o funudau, mewn unrhyw dywydd.


“Roedd creu DVD gyda cwmni Gweledigaeth yn bleser – gydag arweiniad Owain bu inni llwyddo i greu adnodd proffesiynol am bris rhesymol inni ac mae’r DVD yn profi yn hynod boblogaidd.” Linda Hughes - Cydlynydd Calon Lan




Valid XHTML 1.0 Transitional 3C CSS Valid Level 2.1
wefan gan gringo