Amdanom ni...

Mae Cynyrchiadau Gweledigaeth yn gwmni aml-gyfrwng wedi ei leoli yn Ngogledd Cymru. Rydym yn arbenigo mewn cynhyrchu sain a fideo ar gyfer darlledu,eich busnes, neu eich mwynhâd personnol. Mae ein rhestr cleiantiaid yn ystod eang o gwmniau - o'r rhai mwyaf ym Mhrydain Fawr i'r lleiaf.

Gan ddefnyddio y dechnoleg ddiweddara' a profiad helaeth ein staff, gallwn gofnodi heddiw i gynulleidfa yfory ei fwynhau.

Ymfalchiwn yn ein credigrwydd - gan ddefnyddio hyn i ddatblygu eich gweledigaeth chi o'r cychwyn cynnar hyd at y diwedd. O drefnu rheolwr personnol ar gyfer eich prosiect, cynllunio, i drefnu costau yn effeithiol - cynigwn y pecyn cyflawn.

Gallwn saethu mewn fformat o'ch dewis chi! Manylder Uchel (HD), DV, PAL neu NTSC - yn ddibynnol ar eich gofynion. Bydd y pecyn gorffenedig hefyd ar gael mewn amryw o ffurfiau gwahannol: ar gyfer eich safle gwe, DVD, Bluray neu ffôn symudol.

I drafod syniad, croesawn i chi gysylltu ag aelod o staff am fwy o wybodaeth.

“Bu i Gweledigaeth wneud gwaith arbennig ar ein fideo priodas. Cafodd y ffilmio ei wneud heb amharu ar y gwasanaeth, go brin ein bod wedi sylwi fod unrhyw un yno, ond 'roedd y canlyniad gorffenedig yn profi fod popeth wedi ei ddal yn fendigedig. Dangoswyd creadigrwydd wrth wneud a golygu y fideo, yn enwedig pan gyfwelwyd y gwesteion ynglyn â'r diwrnod arbennig.” Joanne a Simon Wierzbicki




Valid XHTML 1.0 Transitional 3C CSS Valid Level 2.1
wefan gan gringo